Mae De Clwyd yn gyfan gwbl o fewn hen sir Clwyd yn y gogledd-ddwyrain, gydag oddeutu dwy ran o dair yng nghyngor bwrdeistref Wrecsam a’r gweddill yn Sir Ddinbych.

Mae gan yr etholaeth boblogaeth o ryw 70,000 ac mae’n ymestyn o’r gogledd i’r de o Frymbo, safle un o weithfeydd haearn y rhanbarth ar un adeg, i’r Waun, ac o’r gorllewin i’r dwyrain o Bronington ger y ffin â Swydd Amwythig i Landrillo, sy’n golygu ei bod hi’n un o’r mwyaf yng Nghymru o ran arwynebedd.

Mae trefi a chymunedau eraill o bwys yn Ne Clwyd yn cynnwys Cefn Mawr, Coedpoeth, Corwen, Johnstown, Llangollen, Rhosllannerchrugog – cartref theatr y Stiwt – a Rhiwabon.

Mae dau ddyffryn hardd, Dyfrdwy a Cheiriog, yn croesi’r etholaeth ac yn gyfoeth o botensial ar gyfer twristiaeth. Dyffryn Ceiriog oedd safle Brwydr Crogen ym 1165, lle cafodd byddin Brenin Harri’r II ei gorfodi i encilio gan filwyr dewr Cymru.

Mae’r sector twristiaeth yn arbennig o bwysig i Dde Clwyd. Mae ffermio’n ddiwydiant pwysig hefyd ac mae’r sector cyhoeddus yn gyflogwr mawr. Mae llawer o swyddi gweithgynhyrchu yn parhau yma hefyd.

Mae’r cwmnïau mawr yn cynnwys prif wneuthurwr trelars Ewrop, sef Ifor Williams yng Nghynwyd, y gwneuthurwr paneli pren Kronospan yn y Waun, Village Bakery yn y Mwynglawdd, a Dobson & Crowther yn Llangollen, sy’n gartref i’r Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol fyd-enwog a’r rheilffordd sydd newydd gael ei hadfer i Gorwen. Mae’r etholaeth yn cynnwys cae rasio Bangor Is-coed hefyd.

Mae dau safle gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ne Clwyd, sef Castell y Waun a Neuadd Erddig, yn ogystal â Dyfrbont Pontcysyllte – y Safle Treftadaeth y Byd UNESCO trawswladol cyntaf sy’n ymestyn dros 11 milltir drwy beth o’r dreftadaeth ddiwydiannol bwysicaf yn y byd.

Mae’r Stiwt yn lleoliad adnabyddus ar gyfer y celfyddydau, ac mae cymunedau fel Glyn Ceiriog a Chorwen yn parhau i gynnig hunaniaeth ddiwylliannol gref.

Mae De Clwyd yn cynnig tipyn bach o bopeth – ac mae llawer gennym i’w ddathlu.